Grŵp Hollbleidiol ar Faterion Pobl Fyddar

 

20 Ionawr 2015

Ystafell Gynadledda 21, Tŷ Hywel

 

Yn bresennol:

 

Ann Jones (Cadeirydd)

Donna Cushing (Ysgrifennydd sy’n gyfrifol am y Cofnodion)

Katie Chappelle (Ysgrifennydd)

 

Cynrychiolwyr / rhanddeiliaid

 

Janet Pinder

Michelle Fowler

Patrick McNamara

Jim Edwards

Catrin Edwards

Jonathan Arthur

Elin Wyn

Olivia Retter

Wendy Marshall

Nigel Williams

Barbara Rees

Hilary Maclean

Julie Doyle

Rachel Williams

 

Aelodau’r Cynulliad

 

Mark Isherwood

Mike Hedges

 

Cymorth cyfathrebu

 

Rachel Williams (Dehonglydd)

Julie Doyle (Dehonglydd)

Hilary Maclean (palandeipydd)

 

Croeso ac ymddiheuriadau

 

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.

 

Cafwyd ymddiheuriadau gan Debbie Thomas, Paul Redfern, Jacqui Bond, Sue Williams, Sian Morgan, Meryl Roberts, Cathie Robins-Talbot

 

Cofnodion y cyfarfod diwethaf

 

Derbyniwyd cofnodion y cyfarfod diwethaf.

 

 

 

-1-

 

Safonau ar gyfer cyfathrebu hygyrch

 

Rhoddodd Richard Williams drosolwg o'r gwaith a wnaed ar safonau gofal iechyd hygyrch.  Mae'r ddogfen yn ddarn o waith ar y cyd a ryddhawyd ym mis Rhagfyr 2013. Roedd i fod i gael ei defnyddio ochr yn ochr â Deddfau Cydraddoldeb ac er mwyn cynorthwyo Byrddau Iechyd drwy ddweud yn glir beth sydd angen iddynt ei wneud i helpu pobl sydd wedi colli'u golwg neu'u clyw.  Roedd yn rhoi canllawiau clir ar archebu dehonglwyr, gwybodaeth am systemau dolen mewn mannau cyfarfod a chyngor ar hyfforddi staff ar gyfer pobl sydd wedi colli'u golwg neu'u clyw.

 

Cynhaliwyd adolygiad o'r gwasanaethau ac roedd y canlyniadau'n syfrdanol braidd.  Cymerodd 120 o gleifion ran a phan ofynnwyd iddynt a oeddent wedi gweld unrhyw welliant mewn gwasanaethau - nid oedd 91% o bobl wedi gweld unrhyw welliant a'r hyn oedd yn achosi pryder oedd na fyddai 58% o gleifion yn gwybod sut i gwyno pe byddent wedi cael gwasanaeth gwael.  Mae hyn yn dangos diffyg hygyrchedd.  Bydd canlyniadau llawn hwn yn cael eu cyhoeddi yn ystod yr wythnosau nesaf.  Bydd copïau'n cael eu dosbarthu i'r aelodau.

 

Mae gan y Gweinidog gopi o'r adroddiad ar hyn o bryd ac mae cyfarfod wedi ei drefnu i drafod hyn ar 5 Chwefror. 

 

Mae AOHL, RNIB a Sense yn pwyso am i'r safonau hyn gael eu gweithredu ac i Fyrddau Iechyd eu blaenoriaethu.  Mae angen i gleifion fod yn ymwybodol o'r safonau fel y gallant ddwyn y Byrddau Iechyd a'u gweithwyr i gyfrif.  Rydym yn gofyn am gefnogaeth y Gweinidog i bennu terfyn amser ac i yrru'r Byrddau Iechyd i'w rhoi ar waith yn llawn ac i sicrhau bod hyfforddiant gorfodol ar gael.

 

Gofynnodd Richard Williams i'r grŵp anfon llythyr o gefnogaeth ar y cyd at y Gweinidog ar y mater hwn.

 

Mynediad i Waith

 

Rhoddodd Jim Edwards gipolwg cryno o'r camau gweithredu a gymerwyd gan Mynediad i Waith yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.  Cynhaliodd Mynediad i Waith adolygiad o'i wasanaethau ac mae wedi dechrau rhannu ei ganfyddiadau a'r hyn sydd angen ei wneud.

 

Yn ogystal, mae'r Pwyllgor Dethol ar Waith a Phensiynau wedi cynnal adolygiad o Fynediad i Waith a chafodd hwn ei gwblhau adeg y Nadolig.  Canfuwyd fod rhai problemau gyda'r cynllun yn enwedig y ffordd y mae'n effeithio ar bobl fyddar.  Disgwylir y bydd y Gweinidog yn rhoi ymateb ffurfiol ar hyn ym mis Mawrth.  Mae deialog cadarnhaol rhwng Action on Hearing Loss, NDCS, Cymdeithas Pobl Fyddar Prydain a Signature a rhai o'r swyddogion ynghylch lle gallai rhai o'r atebion fod.

 

Mae pryderon, fodd bynnag, ynghylch capio posibl ar gyllid neu hyd yn oed ariannu ar y cyd - drwy gyfrwng y cyflogwr - dros wasanaethau.  Gall hyn gael effaith niweidiol a bod yn ddatgymhelliad i gyflogwyr gyflogi unigolion ag anableddau.

 

Gofynnaf i aelodau ystyried ysgrifennu at y gweinidog mewn ymateb i'w gyhoeddiadau cyn y Nadolig a phwysleisio'n arbennig faterion yn ymwneud â rhannu costau a rhyw fath o gapio. 

 

Trafododd yr Aelodau hyn yn fanwl a chytunwyd i gysylltu â'r Gweinidog ynglŷn â'r mater hwn.

-2-

Unrhyw fater arall

 

Cofrestriadau Gwefuslefarwyr  Gofynnodd Olivia Retter am gael tynnu sylw at bryder aelod a oedd wedi cofrestru gyda ASLI fel dehonglydd, ond a oedd hefyd wedi cofrestru gydag ALS (Cymdeithas y Gwefuslefarwyr).  Roedd y pryder yn ymwneud â chofrestru a defnyddio gwefuslefarwyr lefel 2 ar gyfer aseiniadau.

 

Trafodwyd y mater hwn yn fanwl gan yr aelodau ac yn enwedig absenoldeb llwybr i gymhwyster ar lefel 3.  Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau fod cymhwyster lefel 3 ar y gorwel a byddai'r pwyllgor yn ailystyried y mater hwn yn y dyfodol.

 

Wythnos Ymwybyddiaeth Tinitws  - Rhoddodd Richard Williams wybod i'r rhai a oedd yn bresennol am ddigwyddiad a oedd i'w gynnal ar 7 Chwefror yn Llandudno i dynnu sylw at faterion yn ymwneud â Tinitws.  Gofynnodd i aelodau hyrwyddo hyn ymhlith eu cysylltiadau sefydliadol.

 

Awdioleg; adroddiad Under Pressure   - Rhoddodd Richard Williams wybod i'r aelodau am waith ymchwil fydd ar gael y mis nesaf ar wasanaethau Awdiolegol yng Nghymru.  Mae'n wasanaeth sydd dan bwysau ac maent yn ei chael hi'n anodd ymdopi â'r galw gan gleifion.

 

RNIB / Tinitws / Gwasanaeth Cyngor Lles Sense  - Rhoddodd Richard wybod i'r aelodau am wasanaeth newydd ar y cyd â RNIB i gynorthwyo unigolion gyda chymorth budd-daliadau lles, o lenwi eu ffurflenni a mynychu tribiwnlysoedd.  Mae RNIB wedi bod yn gweithredu'r gwasanaeth hwn ers nifer o flynyddoedd ac mae'n llwyddiannus iawn. Mae hwn bellach wedi ei ehangu i bobl sydd â nam ar y clyw.  Trafododd yr Aelodau'r mater hwn.

 

Dyddiad y cyfarfod nesaf

 

Cynhelir cyfarfod nesaf y Grŵp Hollbleidiol ar Faterion Pobl Fyddar ar 30  Mawrth 2015 yng Ngogledd Cymru. Bydd hwn yn gyfarfod cyhoeddus.

 

Trafododd yr Aelodau fformat a thema ar gyfer y cyfarfod.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

-3-